top of page
IMG_6032.JPG

WYTHNOS DYSGU AWYR AGORED
22 - 28 Ebrill 2024

CROESO I WYTHNOS DYSGU AWYR AGORED 2024

Ymunwch â ni i ddathlu dosbarth gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol!

Wedi’i threfnu bob gwanwyn ers 2019, mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i arddangos a dathlu sut y gallwn ni i gyd elwa o ddysgu yn, a dysgu amdan, ein hamgylchedd naturiol.

DIGWYDDIADAU AC ADNODDAU WDAAC2024

Chwilio am syniadau ar gyfer gweithgareddau WDAAC2024? Cliciwch ar y ddolen isod i weld digwyddiadau ac adnoddau gan aelodau Cyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.

Peidiwch ag anghofio i ddefnyddio #WythnosDysguAwyrAgored ar eich cyfryngau cymdeithasol!

Anita Woodland.JPG

DINASYDDION MOESOL A GWYBODUS
THEMA WDAAC2024

Mae thema eleni yn amlygu manteision bod yn yr awyr agored ac yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol gydol oes i helpu taclo'r argyfyngau hinsawdd a natur.

PWYSIG

MENTRA'N GALL

Pwrpas Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yw mynd allan ac archwilio Cymru. Mae bod yn yr awyr agored yn hwyl ond rhaid inni fod yn ddiogel hefyd. Cofiwch i MENTRA'N GALL!

Ond sut alla i #MetranGall? Dechreuwch trwy ofyn tri chwestiwn i chi'ch hun:

  1. Ydw i'n hyderus bod gen i'r WYBODAETH A'R SGILIAU am y diwrnod?

  2. Ydw i'n gwybod sut fydd y TYWYDD?

  3. Oes gen i'r OFFER iawn?

Ewch i adventuresmart.uk am ragor o awgrymiadau defnyddiol a chymorth cynllunio.

bottom of page